1 Hawddamawr ddevlawr ddilyth
2 hayddai vawl i heddiw vyth
3 yn rragorol dwyol daith
4 rrac doy ne echdoy nychdaith
5 Nidoydd debic ffrengic ffriw
6 Dyhvddiant doy i heddiw
7 Nid vn wawd nevd anwadal
8 heddiw a doy hoywdda dal
9 Ie dduw dad a ddaw dydd
10 vnlliw a heddiw hoywddydd
11 heddiw i kefais hoywddawn
12 her i ddoy hwyr yw i ddawn
13 kevais werth gwnayth ym chwerthin
14 kanswllt a mork kwnsallt min
15 kvsan vvn kyson wyfi
16 kain lvned kan olevni
17 kylenic lerw ddierwin
18 klyw ir mair klo ar y min
19 keidw ynof serch y verch vad
20 koyl mawr gvr kwlym ar gariad
21 kof a ddaw ynof yw ddwyn
22 kiried mawr kariad morwyn
23 koron am ganon genav
24 kayr vyrddin kylch y min mav
25 kain baks min diorwakserch
26 kwlm hardd rrwng meinvardd a merch
27 kyn[ ]eddf hwn neb niw kenyw
28 kynadl dav anadl da yw
29 kevais ac wi or kyvoyth
30 karodyn min dyn mwyn doyth
31 [4] kryf wyf oi gayl ynayl nod
32 krair min disglair mwyn dwysglod
33 kriaf i wawd ddidlawd ddadl
34 krynais gan y kroyw anadl
35 kwlm kariad mewn tabliad twbl
36 kwmpasgayr min kampvsgwbl
37 kyd kefais ddidrais ddwydrin
38 heiniar mawl hwnn ar y min
39 Trysor ym yw trisawr mel
40 teiroch ym os kaiff tvrel
41 Ac os kaiff hevyd bryd brav
42 Mvrsen vyth mowrson vwythav
43 Ni bv ddrwc i gwc a gaf
44 lai no dwrn lvned arnaf
45 Inseiliodd a hayddodd hi
46 Mvl oyddwn vy mawl iddi
47 Na ddaw om tavawd wadair
48 Mwy ir merch berw serch a bair
49 Eithr a ddel vthr wedd wylan
50 Ar vyngrred i lvned lan
51 Eiddvn anadl kariadloys
52 A dduw mwy a ddaw im oys
53 y rrvw ddydd havl wenddydd wiw
54 Am hoywddyn ym a heddiw
D'dd ai kant